2015 Rhif 1309 (Cy.  113)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Cymedroli Trefniadau Asesu ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae adran 108(3)(c) o Ddeddf Addysg 2002 (“Deddf 2002”) yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i ragnodi drwy orchymyn drefniadau asesu ar gyfer y cyfnodau allweddol. Yn ychwanegol mae adran 108(7) o Ddeddf 2002 yn caniatáu i Weinidogion Cymru osod swyddogaethau ar gorff llywodraethu ysgol, ar bennaeth ac ar awdurdod lleol mewn perthynas ag unrhyw orchymyn o’r fath a wneir o dan adran 108(3)(c) o Ddeddf 2002.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn darparu bod y darpariaethau cymedroli sydd wedi eu nodi ynddo yn gymwys mewn perthynas â’r holl asesiadau athrawon statudol o ddisgyblion mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru ym mlwyddyn olaf yr ail gyfnod allweddol ac ym mlwyddyn olaf y trydydd cyfnod allweddol. Rhoddwyd effaith gyfreithiol i asesiadau athrawon statudol drwy orchymyn a wnaed yn unol ag adran 108(3)(c) o Ddeddf 2002. Nid yw’r Gorchymyn hwn yn gymwys i ysgolion arbennig a gynhelir gan awdurdodau lleol yng Nghymru.

Mae erthygl 4 o’r Gorchymyn hwn yn gosod dyletswydd ar bennaeth ysgol a gynhelir yng Nghymru i wneud trefniadau i sicrhau bod ei ysgol yn ymuno â grŵp clwstwr cymedroli ysgolion a bod y grŵp yn cyfarfod o leiaf unwaith ym mhob blwyddyn ysgol yn nhymor y gwanwyn neu yn nhymor yr haf. Mae erthygl 4 hefyd yn nodi diben y grŵp clwstwr cymedroli ysgolion. Caiff grwpiau clwstwr cymedroli ysgolion gynnwys ysgolion o fwy nag un ardal awdurdod lleol.

Mae erthygl 5 o’r Gorchymyn hwn yn gosod dyletswydd ar y pennaeth i wneud trefniadau i sicrhau bod athrawon yn ei ysgol yn dod yn ymwybodol o ddyfarniadau a phenderfyniadau’r grŵp clwstwr cymedroli ysgolion ac yn eu rhoi ar waith.

Mae erthygl 6 o’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â’r personau y mae rhaid iddynt fod yn bresennol yng nghyfarfodydd y grŵp clwstwr cymedroli ysgolion a’r personau y caniateir iddynt fod yn bresennol yn y cyfarfodydd hynny. Mae’r erthygl hon yn darparu y caiff prif swyddog addysg yr awdurdod lleol y mae’r ysgol yn ei ardal fod yn bresennol yng nghyfarfodydd y grŵp clwstwr cymedroli ysgolion.

Mae erthygl 7 yn darparu mai mater i’r grŵp clwstwr cymedroli ysgolion yw rheoleiddio ei weithdrefnau ei hun.

Mae erthygl 8 o’r Gorchymyn hwn yn darparu bod person sy’n gweithredu fel pennaeth dros dro i’w ystyried yn bennaeth yr ysgol at ddibenion y Gorchymyn hwn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth Is-adran Cwricwlwm yr Adran Addysg a Sgiliau.

 


2015 Rhif 1309 (Cy.  113)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Cymedroli Trefniadau Asesu ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2015

Gwnaed                                      6 Mai 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       11 Mai 2015

Yn dod i rym                              1 Medi 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 108(3)(c), (7), a 210 o Ddeddf Addysg 2002([1]) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Cymedroli Trefniadau Asesu ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2015 a daw i rym ar 1 Medi 2015.

(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas ag ysgolion a gynhelir yng Nghymru.

Dehongli

2.(1)(1) Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “asesiad athro neu athrawes” (“teacher assessment”) yw’r trefniadau asesu hynny a ragnodir o dro i dro gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r ail gyfnod allweddol a’r trydydd cyfnod allweddol o dan adran 108(3)(c) o’r Ddeddf([2]) ac mae “asesiadau athrawon” i’w dehongli yn unol â hynny;

ystyr “cymedroli” (“moderation”, “moderating”) yw adolygu prosesau a chanlyniadau asesiadau athrawon er mwyn sicrhau cysondeb mewn asesiadau athrawon yn ystod yr ail gyfnod allweddol a’r trydydd cyfnod allweddol;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg 2002;

ystyr “penderfyniad rhagarweiniol” (“preliminary determination”) yw unrhyw benderfyniad a wneir gan athro neu athrawes ynghylch lefel cyrhaeddiad disgybl ar ôl asesiad athro neu athrawes o’r disgybl hwnnw cyn gwneud penderfyniad terfynol ynghylch lefel cyrhaeddiad y disgybl hwnnw yn yr asesiadau athrawon hynny;

ystyr “safoni arferion asesiadau athrawon” (“standardisation of teacher assessment practices”) yw adolygu dyfarniadau asesiadau athrawon a phrosesau asesiadau athrawon er mwyn sicrhau cysondeb yn y dyfarniadau a’r prosesau hynny;

ystyr “tymor y gwanwyn” (“spring term”) yw’r tymor ysgol a ddaw’n union cyn tymor yr haf;

ystyr “tymor yr haf” (“summer term”) yw’r tymor olaf yn y flwyddyn ysgol;

ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru ac nad yw’n ysgol arbennig.

(2) Mae cyfeiriadau at yr ail gyfnod allweddol a’r trydydd cyfnod allweddol i’w dehongli yn unol ag adran 103 o’r Ddeddf.

Cymedroli asesiad athro neu athrawes

3. Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer cymedroli’r asesiad athro neu athrawes o bob disgybl ym mlwyddyn olaf yr ail gyfnod allweddol ac ym mlwyddyn olaf y trydydd cyfnod allweddol.

Dyletswydd i ymuno â grŵp cymedroli clwstwr ysgolion

4.—(1) Rhaid i bennaeth roi trefniadau ar waith i sicrhau—

(a)     bod yr ysgol y mae wedi ei gyflogi ynddi yn dod yn aelod (“aelod-ysgol”) o grŵp clwstwr cymedroli ysgolion; a

(b)     bod y grŵp clwstwr cymedroli ysgolion yn cyfarfod o leiaf unwaith ym mhob blwyddyn ysgol naill ai yn ystod tymor y gwanwyn neu yn ystod tymor yr haf.

(2) Mae grŵp clwstwr cymedroli ysgolion yn grŵp o ddwy ysgol neu ragor a sefydlir at ddibenion—

(a)     datblygu safoni arferion asesiadau athrawon cywir a chyson ym mhob aelod-ysgol cyn asesiadau athrawon o waith ysgol disgyblion;

(b)     datblygu cymedroli cywir a chyson gan athrawon ym mhob aelod-ysgol ar ôl asesiadau athrawon o waith ysgol disgyblion;

(c)     adolygu o dro i dro safoni arferion asesiadau athrawon a’r arferion cymedroli ym mharagraffau (2)(a) a (b) mewn aelodau-ysgol gyda golwg ar wella eu cywirdeb a’u cysondeb; a

(d)     adolygu enghreifftiau o waith a gynhyrchir gan ddisgyblion cofrestredig yr aelod-ysgol a’u hasesu yn erbyn y deilliannau dymunol.

Dyletswydd i roi dyfarniadau a phenderfyniadau’r grŵp clwstwr cymedroli ysgolion ar waith

5. Rhaid i bennaeth roi trefniadau ar waith i sicrhau, cyn diwedd y flwyddyn ysgol y cyfarfu’r grŵp clwstwr cymedroli ysgolion ynddi (“y flwyddyn ysgol gyfredol”), fod athrawon yn yr ysgol—

(a)     yn dod yn ymwybodol o ddyfarniadau a phenderfyniadau’r grŵp clwstwr cymedroli ysgolion mewn perthynas â safoni a chymedroli asesiadau athrawon o’r disgyblion yn yr ysgol yn ystod y flwyddyn ysgol gyfredol;

(b)     yn adolygu, ac yn diwygio os oes angen, unrhyw benderfyniad rhagarweiniol a wneir yn ystod y flwyddyn ysgol gyfredol i ystyried dyfarniadau a phenderfyniadau’r grŵp clwstwr cymedroli ysgolion mewn perthynas â safoni a chymedroli asesiadau athrawon o ddisgyblion ar gyfer y flwyddyn ysgol gyfredol; ac

(c)     yn gweithredu dyfarniadau a phenderfyniadau’r grŵp clwstwr cymedroli ysgolion mewn perthynas â safoni a chymedroli asesiadau athrawon o ddisgyblion yn ystod y flwyddyn ysgol yn union cyn y flwyddyn ysgol gyfredol.

Presenoldeb mewn cyfarfodydd o grŵp clwstwr cymedroli ysgolion

6.(1)(1) Rhaid i’r personau a ganlyn fod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod o grŵp clwstwr cymedroli ysgolion—

(a)     pennaeth pob ysgol a gynhelir sy’n aelod o’r grŵp clwstwr cymedroli ysgolion, neu gynrychiolydd y pennaeth; a

(b)     unrhyw bersonau eraill y mae’r aelodau-ysgol yn penderfynu arnynt.

(2) Pan fo’r pennaeth, yn unol â pharagraff (1)(a), yn trefnu i’w gynrychiolydd fod yn bresennol mewn cyfarfod o’r grŵp clwstwr cymedroli ysgolion yn ei le, rhaid i’r pennaeth fod wedi ei fodloni bod gan y cynrychiolydd y sgiliau, y profiad a’r arbenigedd angenrheidiol i wneud hynny.

(3) Caiff prif swyddog addysg pob awdurdod lleol y mae ysgol a gynhelir yn ei ardal sy’n aelod-ysgol o’r grŵp clwstwr cymedroli ysgolion, neu gynrychiolydd y person hwnnw, fod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod o grŵp clwstwr cymedroli ysgolion at ddiben ceisio sicrhau cysondeb o ran cymedroli a safoni arferion asesiadau athrawon ysgolion ar draws yr holl grwpiau clwstwr cymedroli ysgolion yn ardal yr awdurdod lleol hwnnw.

(4) Pan fo’r prif swyddog addysg, yn unol â pharagraff (3), yn trefnu i’w gynrychiolydd fod yn bresennol mewn cyfarfod o’r grŵp clwstwr cymedroli ysgolion yn ei le, rhaid i’r prif swyddog addysg fod wedi ei fodloni bod gan y cynrychiolydd y sgiliau, y profiad a’r arbenigedd angenrheidiol i wneud hynny.

Gweithdrefn cyfarfodydd grŵp clwstwr cymedroli ysgolion

7. Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth arall yn y Gorchymyn hwn, caiff aelodau-ysgol reoleiddio eu gweithdrefnau eu hunain.

Pennaeth dros dro

8. At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae person i’w ystyried fel pe bai’n gweithredu fel pennaeth ysgol a gynhelir os yw’r person hwnnw yn cyflawni swyddogaethau pennaeth yr ysgol—

(a)     hyd nes y penodir pennaeth, neu

(b)     yn absenoldeb pennaeth.

 

 

 

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

6 Mai 2015



([1])           2002 p.32. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn adran 108 o Ddeddf Addysg 2002 i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

([2])           Nodir y trefniadau asesu cyfredol yn O.S. 2004/2915 (Cy. 254), O.S. 2005/1394 (Cy. 108), O.S. 2013/433 (Cy. 433) ac O.S. 2014/1999 (Cy. 200).